Nid wyf wedi derbyn y neges e-bost yr oeddwn yn ei disgwyl
Dylech dderbyn neges e-bost yn ymateb i’r camau canlynol:
- Ysgogi cofrestriad
- Cadarnhau apwyntiad wedi’i drefnu
- Cadarnhau canslo apwyntiad
- Cadarnhau presgripsiwn wedi’i archebu
- Negeseuon e-bost gwasanaeth o’r wefan e.e. wedi anghofio cyfrinair, wedi anghofio enw defnyddiwr a negeseuon e-bost ysgogi
Os na fyddwch yn derbyn y negeseuon e-bost hyn, gwiriwch eich ffolder sbam/sothach. Mae negeseuon e-bost cadarnhau Fy Iechyd Ar-lein yn cael eu hanfon o:
- noreply@Wales.nhs.uk
Os bydd y negeseuon e-bost hyn yn eich ffolder sbam/sothach, yna ychwanegwch y cyfeiriad hwn at eich rhestr o anfonwyr diogel. (Os nad ydych yn siŵr sut i wneud hyn, cyfeiriwch at help eich cyfrif e-bost i gael cymorth).
Os byddwch wedi rhoi cynnig ar yr uchod, ac yn parhau i gael problemau technegol, defnyddiwch y ddolen Cysylltu â Gwasanaeth Cymorth y Wefan, ar waelod y sgrin.
Sylwer – I argraffu’r pwnc hwn, dewiswch y botwm argraffu yn y cornel uchaf ar y dde, a dilyn yr anogwyr ar y sgrin.